WilliamJONESDymuna Eirian a Llinos a theulu'r diweddar William Jones, Llanfairtalhaiarn, ddatgan eu gwerthfawrogiad cywiraf am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli tad, tad yng nghyfraith, taid, a ffrind annwyl. Diolch am y llu o gardiau, galwadau ffôn ac ymweliadau. Diolch i'r Parchedig Aneurin Owen am y gwasanaeth teimladwy a hefyd i Oswen Davies wrth yr organ. Diolchwn hefyd am y rhoddion hael a dderbyniwyd tuag at Gymdeithas Brydeinig y Galon.
Keep me informed of updates
Add a tribute for William